Please make it easy for us to read your submission, and use a straightforward easy to read font in 12-14 point. Double-spaced for prose, however you want it to appear for poetry. Deaf writers may submit by video in BSL.
ALL OUR CURRENT SUBMISSION CALLS HAVE DIFFERENT CRITERIA, PLEASE READ THE INDIVIDUAL CALL!
This information will help you to get accepted:
We will not accept anything that uses AI in any way.
We will not under any circumstances publish erotica, and we aren’t keen on horror of any kind, gore or torture.
We detest sexist and other stereotypes and deplore derivative plotlines, sloppy writing and clichés, and are bored by romance and chick-lit. We aren't keen on religion of any flavour.
If your writing is motivated by hate of any kind you won't get considered.
Other than that we will consider most genres provided they are beautifully written, imaginative, and have narrative substance and persuasive characterisation
Thank you!
Our Usual Criteria...
Stories and poems, (We don't publish memoir, or other kinds of non-fiction ) must be:
All your own work (this includes no use of AI) If you write with a partner you must both apply together.
Unpublished
Written in English
up to 2000 words long unless otherwise specified in a particular call out
Music (Where requested): original or traditional - i.e. YOUR copyright or out of copyright,
Yn dilyn llwyddiant A470:Poems for the Road / Cerddi’r Ffordd, ac Afonydd:Poems for Welsh Rivers / Cerddi Afonydd Cymru, rydym yn edrych ymlaen at ein blodeugerdd nesaf gwbl ddwyieithog, Cymraeg a Saesneg – Home Ground / Y Filltir Sgwâr. Y bwriad, yn ddibynnol ar nawdd, yw cyhoeddi’r llyfr hwn yn ystod Haf 2027.
Following the success of A470: Poems for the Road/ Cerddi’r Ffordd, and Afonydd: Poems for Welsh Rivers /Cerddi Afonydd Cymru, we are looking forward to our next entirely bilingual Welsh/English anthology, Home Ground/Y Filltir Sgwâr. Depending on funding we hope to publish this book in Summer 2027.
Cais i feirdd fynegi diddordeb yn unig yw hwn ar hyn o bryd.
This is a request for expressions of interest only at this stage
Byddwn yn gwneud cais am nawdd mewn egwyddor fis Chwefror 2026, ar gyfer pwyllgor mis Ebrill Cyngor Llyfrau Cymru, gan fod cyfieithu yn ddrud ac mae’n amhosib i ni ddechrau ar y gwaith heb dderbyn sicrwydd rhesymol y bydd cyllid ar gael. Er mwyn cefnogi’r cais hwn, hoffem allu dweud ‘mae hyn a hyn o feirdd Cymreig yn aros yn eiddgar am alwad i gyfrannu’. Hoffem gynnwys rhai enwau – beirdd fyddai’n creu argraff arnynt, a nodi niferoedd – beirdd yr ydym wedi cyhoeddi eu gwaith yn y gorffennol / beirdd sydd yn newydd i ni, beirdd sydd yn bwriadu ysgrifennu yn Saesneg / yn Gymraeg / yn y ddwy iaith.
We are going to apply for in principle funding in February 2026 for the April committee of Books Council of Wales, because translation is costly and we can’t begin without a reasonable certainty of funds. In order to support that, we would like to be able to say ‘x number of Welsh Poets are eagerly awaiting the opening of the submission call’, including by name - poets they will be impressed by, by numbers -poets we have published before/poets who are new to us, poets intending to write in English/Cymraeg/Both.
Os gwelwch yn dda, os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu gadewch i ni wybod trwy erbyn diwedd Ionawr 2026. PEIDIWCH AG ANFON CERDDI AR HYN O BRYD.
Please let us know by the end of January 2026 if this is you. DON’T SEND POEMS YET.
Mwy o wybodaeth
More information
Fel yn y gorffennol rydym yn chwilio am feirdd sydd yn Gymreig yn rhinwedd eu genedigaeth neu eu magwraeth, waeth lle maent yn byw erbyn hyn, a hefyd feirdd sydd yn byw yng Nghymru ar hyn o bryd. Ac mae croeso i feirdd sydd yn ysgrifennu yn Gymraeg, waeth lle maent yn byw. I ateb rhai cwestiynau a ofynnwyd yn y gorffennol, na, nid yw mynychu prifysgol yng Nghymru ar ryw bwynt yn y gorffennol yn eich gwneud yn gymwys, na chwaith bod yn berchen ar ail gartref yng Nghymru.
As before, we are looking for poets who are Welsh by birth or upbringing, regardless of where they currently live, and poets who currently live in Wales. To pre-empt questions we have had before, doing a degree in a Welsh university at some point in the past does not count, having a second home in Wales does not count.
Byddwn yn chwilio am gerddi byrion yn Gymraeg neu yn Saesneg all gael eu cyfieithu i’r iaith arall, a’u gosod ar dudalennau ochr yn ochr. Golyga hyn na all cerdd, waeth ym mha iaith, fod yn hirach na 25 llinell gan gynnwys y teitl a’r bylchau rhwng penillion – gan gofio mai tua 63 nod yw llinell ar y dudalen, ac y bydd llinellau (neu deitlau!) hirion sy’n goferu i linell arall yn cyfrif fel dwy linell. Byddwn yn gwrthod cerddi sydd yn rhy hir.
We are looking for short poems in Welsh or English that can be translated into the other language, and typeset side by side, This does mean each poem, regardless of language, can only be 25 lines including title and spaces between stanzas – remember that long lines (or long titles!) that go over the line break will count towards the limit, and the printable part of the page is about 63 characters. If your poem is too long, it will be declined.
Beth a olygwn wrth Home Ground / Y Filltir Sgwâr? Y mannau yn eich bywyd sydd wedi eich diffinio, sydd yn eich cysylltu â Chymru: lle magwyd chi, lle rydych yn byw nawr... tref, pentref, dinas, mynydd, coedwig, arfordir neu lan afon neu lyn; y mannau lle mae eich gwreiddiau, lle mae ymdeimlad o berthyn; eich cynefin; y mannau sydd yn gwneud i chi deimlo fel chi; neu’r mannau roeddech yn ysu i ddianc ohonynt, ond sydd yn dal i’ch galw’n ôl.
What do we mean by Home Ground/Y Filltir Sgwâr? The places in your life that have defined you, that connect you to Wales: where you grew up, where you live now… town, village, city, mountain, forest, waterside: The places where you have grown roots, and which make you feel that you belong; your cynefin; the places that make you feel like you, or the places that you couldn’t leave fast enough, but that still call you back.
Gallai fod mor lleol â’r olygfa o ffenestr y gegin, heddiw neu yn y gorffennol, tro yn y ffordd, neu bont neu wal... y llwybr i... y daith bws i... gallai fod eich hoff siop lyfrau neu lyfrgell! Neu gallai fod yn ddarn llawer mwy o Gymru, beth bynnag sydd yn eich ysbrydoli, ond ar gyfer yr alwad hon rhaid iddo fod yn rhywle penodol yng Nghymru.
This might be as localised as the view from a kitchen window, now or in the past, a turn in the road, a bridge or a wall, the walk to … the bus route to… it could be your favourite bookshop or library! Or it could be a much bigger part of Wales, however you feel it, but it does need to be identifiably Cymru for this call.
Byddwch yn ochelgar o’r gair hiraeth, a aeth yn ystrydeb ar adegau, yn arbennig ymysg siaradwyr Saesneg yn ysgrifennu am Gymru, ac mae’n ymateb amlwg braidd i’r alwad hon. Rydym yn awyddus i osgoi creu pentwr o’r enw ‘cerdd hiraeth arall’ wrth ddethol y rhestr fer. Gwnewch yn siŵr bod y gair yn cael ei ddefnyddio lle mae ei angen a lle mae’n addas.
Please be wary of the word hiraeth, it has become such a cliché, particularly with English speakers writing about Wales, and it’s an obvious place to go with this particular submission call. We don’t want to have a pile entitled ‘another hiraeth poem’ when we are shortlisting. So please ensure any use of hiraeth is entirely appropriate and necessary.
